Gwynedd ôl-Rhufeinig (Yr Oesoedd Tywyll)
Yn dilyn diflaniad terfynol y llengoedd Rhufeinig o daleithiau Britannia tua 408 OC, gadawyd y teyrnasoedd Prydeinig i gynnal eu trefn eu hunain, gyda phenaethiaid llwythol a brenhinoedd yn amddiffyn eu tiroedd rhag y Gwyddelod a ymosodai o’r gorllewin, y Pictiaid o’r gogledd a’r Eingl-Sacsoniaid o’r de-ddwyrain. Cred rhai haneswyr na chafodd Rhufain fawr o ddylanwad pan symudodd llwyth y Votadini i Gymru, gan awgrymu bod Gwrtheyrn, Penllywydd Prydain wedi cyfarwyddo Cunedda (o Lothian) i amddiffyn Gwynedd, megis y cyfarwyddodd yr arweinydd Sacsonaidd Hengest i amddiffyn dwyrain Lloegr. Dyma gyfnod ailfeddiannu’r ceyrydd a’r bryngaerau Rhufeinig gan benaethiaid lleol.
411-440au OC
Yn y cyfnod hwn meddiannwyd llawer o Wynedd a Gorllewin Prydain gan oresgynwyr Gwyddelig, a byddai llawer o benaethiaid llwythi, brenhinoedd a llywodraethwyr Rhufeinig yn ei chael hi’n amhosib dal gafael ar eu tiroedd. Mae hi’n anodd i haneswyr ddarparu dyddiadau na thystiolaeth bendant ynglŷn â phwy oedd mewn grym go iawn tan apwyntiad Cunedda yn 442. Er hyn, mae enwau pwysig Ambrosius Aurelanius a Gwrtheyrn yn brigo i’r wyneb. Mae’n debygol fod y ddau arweinydd yma yn rheoli’r un pryd. Nid yw’n ymddangos fod Gorllewin Prydain dan fygythiad mawr gan yr Eingl-Sacsoniaid yn y cyfnod hwn, sy’n awgrymu y codai’r prif fygythiad o gyfeiriad y Gwyddelod a’r Pictiaid, ynghyd â’r rhaniadau milain rhwng y grymoedd Rhufeinig oedd yn dal yma.
Ysgrifennwyd llawer am y ffigwr hanesyddol a’r arweinydd Ambrosius Aurelianus, gan ei gysylltu â rhai chwedlau Arthuraidd.
Gall fod dau ddyn o’r un enw – Emrys Wledig yr Hynaf, a Merddyn Wledig Ambrosii, tad a mab efallai. Mae’n
debygol fod Emrys yr Hynaf yn fab i Rufeiniwr, o bosib llywodraethwr Rhufeinig o rannau deheuol Prydain, yn cynnal ei etifeddiaeth a hawl ei ach yn erbyn bygythiad yr Eingl-Sacsoniaid. Mae’n bosib bod Emrys a Gwrtheyrn yn gynghreiriaid hyd at yr amser pan wahoddodd Gwrtheyrn y Sacsoniaid i Gaint a Cunedda i Ogledd Cymru. Golygai marwolaeth Emrys yr Hynaf yn y frwydr yn erbyn byddin Gwrtheyrn ym mrwydr Wallop yn 439, i’w fab di-dâd yn ddianc i’r Gogledd a’i ddal a’i garcharu yn Ninas Emrys gan Gwrtheyrn. Mae’r hanesydd hynafol Nennius yn cofnodi fod Emrys fel bachgen wedi cael ei alw i helpu Gwrtheyrn adeiladu caer yn Ninas Emrys, ac yn ddiweddarach yn cael “teyrnasoedd Gorllewin Prydain” yn rhodd ganddo wedi i Emrys guro Gwrtheyrn mewn brwydr. Mae’n annhebygol i Emrys gael unrhyw “deyrnas” fodd bynnag , er y gallai fod yn rheoli mewn rhan fach o Eryri.
Damcaniaeth arall gan haneswyr yw fod Cunedda wedi cael ei wahodd i Gymru gan Ambrosius – gan fod ‘na gysylltiadau rhyngddo ag ardaloedd ger Wal Hadrian.
OC 383-388
Macsen Wledig (Magnus Maximus) – Yr Imperator, Ymerawdwr y Gorllewin. Cartrefai yn Segontium yn ystod ei ail briodas ag Elen Luyddog ferch Eudaf Hen
Daeth i Brydain yn 368 OC i arbed terfysg yn y Brydain Rufeinig, a chaiff ei gydnabod gan rai haneswyr fel yr un oedd yn gyfrifol am drosglwyddo i’r Cymry eu taleithiau eu hunain a’r cyfrifoldeb o’u hamddiffyn rhag y Gwyddelod
c. 383-410
Antonius Dionatus Greogorius ap Macsen (Brenin Anwn Dynod) neu Demetius Brenin Gorllewin Prydain ac Demetia (De Cymru) – mab Macsen Wledig ac Elen Luyddog ferch Eudaf Hen –
Mwy na thebyg yn lywodraethwr Rhufeinig o’r haen uchaf a dderbyniwyd fel rheolwr Demetia (De Cymru) a Gorllewin Prydain. Rheolai’r De tra’i frawd Cystennin yn rheoli’r Gogledd.
c. 411 OC
St. Peblig ap Macsen (St. Publicus) – mab Macsen wledig ac Elen Luyddog ferch Eudaf Hen
Nid oedd ganddo ddiddordeb mewn llywodraethu, ac ildiodd ei hawliau , gan ganiatau i’w frawd Dionatus ddod yn Ymerawdwr Prydain yn ddiweddarach. Ymunodd â’r weinidogaeth a sefydlu eglwys Llanbeblig ar gyrion Caernarfon ple gwasanaethodd fel abad hyd ei farw.
c. 388-411
Cystennin ap Macsen (Constantine III – Flavius Claudius Constantinus) – mab Macsen Wledig ac Elen Luyddog ferch Eudaf Hen
Cadfridog Rhufeinig a gyhoeddodd ei hun yn Ymerawdwr Rhufeinig y Gorllewin yn 407. (Rheolai teulu Macsen Wledig Wynedd hyd at ddiwedd y cyfnod Rhufeinig). Un o bedwar mab oedd Cystennin a dderbyniodd eu tiroedd eu hunain i’w llywodraethu tan ddiwedd y cyfnod Rhufeinig, tra’r oedd Macsen ei hun i ffwrdd yn Gâl. Mae’n debyg mai hwn oedd yr un Cystennin â’r arweinydd a’r brenin o’r Gogledd-Orllewin fu farw mewn brwydr yn erbyn y Pictiaid yn 411. Ei brif ganolfan oedd Caer Segont (Segontiwm), lle cysylltiedig â mam Cystennin Fawr, St. Helena, a’i theulu (ddim yw gamgymryd â Elen Luyddog).
c. 383-440 OC
Eugenius ap Macsen (Owain Finddu o bosib) – mab Macsen Wledig a Ceindrech ferch Rheiden – Brenin Canolbarth a De Cymru
Cadfridog Rhufeinig / Brenin Canol a De-Ddwyrain Cymru. Efallai fod ei arglwyddiaeth yn ymestyn i Wynedd i gefnogi ei hanner frawd Cystennin ac yn ddiweddarach i gefnogi Cunedda. Lladdwyd ef mae’n debyg wrth ymladd â goresgynwyr Gwyddelig. Fodd bynnag, mae chwedl arall yn ei gysylltu â Dinas Emrys, sy’n awgrymu iddo gael ei lofruddio ger Beddgelert tra’n hebrwng ei fam Elen Luyddog. (Mae rhai’n awgrymu y gallai Owain Finddu fod yn rhywun arall, ond ni dderbyniwyd hyn yn llwyr gan haneswyr).
c. 418-440au
Ambrosius Aurelianus (Emrys Wledig yr Hynaf) – mab Cystennin Fawr
Mae rhai haneswyr yn credu mai ef oedd mab Cystennin, fyddai’n ei wneud yn ŵyr i Macsen Wledig. Mae hyn yn awgrymu y gallai o bosib fod yn ewyrth i Gwrtheyrn drwy ei briodas fer â Severa merch Macsen Wledig.
c. 425-450
Gwrtheyrn Gwrtheneu ap Gwidol (Vortigern Vorteneu (neu) Vitalinus) – Uwch Frenin Rhufeinig Powys a Phrydain gyfan ( rheolai Gaerloyw, Caerfaddon a rhannau o Wynedd)
Am gyfnod byr bu’n briod â Severa ferch Macsen, aelod pwysig o deulu ymerodrol Prydain. Yn ddiweddarach priododd am y bedwaredd waith â merch y Sacson Hengist. Gallai fod wedi rheoli ynghynt hefyd tra’n briod â Severa yn 218 (cyn 425).
Teyrnas Frenhinol Gwynedd
Castell Deganwy - Prif Lys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd – Maerdref Conwy
c. 442- 455
Cunedda Wledig ap Edern – Pennaeth o’r ffin Ogleddol ac arweinydd y Votadini o Fanaw Gododdin yn ardal y Lothian o’r Alban.
Daeth draw i Ogledd Cymru o dan bolisïau un ai Magnus Maximus neu Wrtheyrn i amddiffyn y dalaith rhag goresgyniad Gwyddelig, gan sefydlu ach frenhinol Tŷ Gwynedd. Parheir i drafod hyn ymhlith haneswyr, ond credir yn gyffredinol mai hyn sy’n wir. Sonnir ei fod wedi rheoli Gwynedd mewn cyfnod cynharach hefyd, ond eto derbynnir 422 fel y dyddiad mwyaf tebygol gan haneswyr ac ysgolheigion.
c. 455-475
Einion ‘Yrth’ ap Cunedda – mab Cunedda ap Edern – Brenin Gwynedd – seithfed fab Cunedda
Fe wnaeth etifeddu Gwynedd ag fe wnaeth ei frodyr eraill etifeddu tiroedd, ei frawd Ceredig, Brenin Ceredigion, a’i nai Meirion yn Frenin Meirionnydd.
c. 475-517
Cadwallon ‘Llawhir’ ap Einion – mab Einion ap Cunedda – Uwch Frenin – wedi sefydlu Llys Brenhinol yn Aberffraw, Ynys Môn
c. 517-549
Maelgwn ‘Gwynedd’ ap Cadwallon ‘Maelgwn Hir’ – mab Cadwallon ap Einion – Uwch Frenin
Rheolodd Ogledd Cymru o’i Lys yn Deganwy ac am Gyfnod byr o Llanrhos & Caer Segont.
c. 549-586
Rhun ‘Hir’ ap Maelgwn – mab Maelgwn Gwynedd – Brenin Gwynedd
o bosib wedi ei eni yng Nghaer Segont, fe farwodd yn ei brif lys yn Caerhun (Kanovium)
c. 586-599
Beli ap Rhun – mab Rhun ap Maelgwn – Brenin Gwynedd – Rheolodd o Caerhun
Llys Rhun (Caerhun)
c. 599-613
Iago ap Beli – mab Beli ap Rhun – Brenin Gwynedd
c. 613-620
Cadfan ap Iago – mab Iago ap Beli – Uwch Frenin – wedi ei leoli yn Aberffraw, Ynys Môn
620-627
(Gwynedd wedi ei oresgyn gan Edwin o Northumberland)
c. 625-634
Cadwallon ap Cadfan – mab Cadfan ap Iago – Uwch Frenin Prydain – yn alltud 620-627
c. 634-655
Cadfael ‘Cadomedd’ ap Cynfeddw – Brenin a ddwynodd y goron
Cipiodd yr orsedd ar ôl marwolaeth Cadwallon ap Cadfan
c. 655-682
Cadwaladr ‘Fendigaid’ ap Cadwallon – mab Cadwallon ap Cadfan – Uwch Frenin Gwynedd
c. 682-712
Idwal ‘Iwrch’ ap Cadwaladr – mab Cadwaladr ap Cadwallon – Uwch Frenin Gwynedd
does dim tystiolaeth o’i deyrnasiad, efallai ei fod yn Frenin oherwydd ei fod yn fab a thad i’r Brenhinoedd
c. 712-754
Rhodri ‘Molwynog’ ab Idwal – mab Idwal ap Cadwaladr – Uwch Frenin Gwynedd
c. 754-798
Caradog ap Meirion – Brenin Rhos a Gwynedd
Cipiodd yr orsedd ar ôl marwolaeth Rhodri Molwynog
c. 798-816
Cynan ‘Dindaethwy’ ap Rhodri – mab Rhodri Molwynog – Brenin Gwynedd – (Llys Brenhinol yn Llanfaes)
816-825
Hywel ap Rhodri – mab Rhodri Molwynog (o bosib) – Brenin Gwynedd
Chafodd ei adnabod fel yr olaf o linell Cunedda ar yr ochr wrywaidd. Efallai ei fod wedi lladd ei frawd Cynan mewn brwydr ger Llanfaes. (Yn ôl rhai ffynonellau yr oedd yn fab i Caradog ap Meirion)
Y llinell frenhinol newydd, Merfyn Frych a Llys Brenhinol Aberffraw
825-844
Merfyn ‘Frych’ ap Gwriad – mab Gwriad ap Elidyr, Brenin Manaw – Brenin Gwynedd ac Ynys Manaw (ei fam oedd – Esyllt ferch Cynan Dindaethwy)
844-878
Rhodri ‘Mawr’ ap Merfyn – mab Merfyn ap Gwriad – Brenin Gwynedd, Powys a Seisyllwg
878-916
Anarawd ap Rhodri – mab Rhodri ap Merfyn – Brenin Gwynedd – ailsefydlodd y prif Lys Brenhinol yn Aberffraw
916-942
Idwal ‘Foel’ ap Anarawd – mab Anarawd ap Rhodri – Brenin Gwynedd – lleolwyd yn y Llys Brenhinol yn Aberffraw
942-950
Hywel ‘Dda’ ap Cadell – mab Cadell ap Rhodri – Brenin Deheubarth, Powys, Seisyllwg a Dyfed (Gwynedd wedi ei rheoli gan y Deheubarth)
Fe gipiodd orsedd Gwynedd ar ôl marwolaeth Idwal Foel a rheolodd y rhan fwyaf o Gymru
950-969
Ieuaf ab Idwal ‘Foel’– mab Idwal ap Anarawd – Cyd-Frenin Gwynedd a Powys
Rheolodd gyda’i frawd Iago ar ôl adennill gorsedd Gwynedd. Diorseddwyd a charcharwyd gan ei frawd Iago (Llys Frenhinol yn Aberffraw)
950-979
Iago ab Idwal ‘Foel’ – mab Idwal ap Anarawd – Cyd-Frenin Gwynedd a Powys
Rheolodd gyda’i frawd Ieuaf ar ôl adennill gorsedd Gwynedd. Yn ddiweddarach fe’i diorseddwyd a charcharwyd ei frawd, ac yntau wedyn yn gorfod rhannu yr orsedd gyda’i nai Hywel ap Ieuaf, tan yr oedd ei hun wedi ei ddiorseddu yn 979 . (Llys Brenhinol yn Aberffraw)
979-985
Hywel ‘Foel’ ap Ieuaf – mab Ieuaf ap Idwal – Brenin Gwynedd
Ar ôl carchariad ei dad yn 969, cydreolodd am gyfnod gyda ei ewyrth Iago ap Idwal, nes iddo yntau gael ei ddiorseddu fel dialedd yn 979.
985-986
Cadwallon ap Ieuaf – mab Ieuaf ap Idwal – Brenin Gwynedd
Rheolodd am flwyddyn cyn ei lofruddio gan Maredudd ap Owain
986-999
Maredudd ap Owain ap Hywel Dda – ŵyr Hywel Dda- Brenin y Deheubarth (Gwynedd wedi ei rheoli gan y Deheubarth)
Fe gipiodd gorsedd Gwynedd ar ôl llofruddio Cadwallon ap Ieuaf
999-1005
Cynan ap Hywel – mab Hywel ap Ieuaf – Tywysog Gwynedd
Ar ôl marwolaeth Maredudd ap Owain, cipiodd gorsedd Gwynedd a dychwelwyd am gyfnod i’r Llys Brenhinol yn Aberffraw.
1005-1018
Aeddan ap Blegywryd – Tywysog Gwynedd
O bosib fe gipiodd gorsedd Gwynedd ar ôl gorchfygu Cynan ap Hywel mewn brwydr.
1018-1023
Llywelyn ap Seisyll – un o ddisgynyddion tebygol Hywel Dda – Brenin Gwynedd a’r Deheubarth
Enillodd yr orsedd wrth orchfygu’r trawsfeddiannwr Aeddan mewn rhyfel, ac hefyd gan ei fod yn briod i Angharad ferch Maredudd ap Owain.
1023-1039
Iago ab Idwal ap Meurig – gor-ŵyr Idwal Foel – Brenin Gwynedd a Deheubarth
Dychwelodd llinach frenhinol Gwynedd yn ôl i Lys Brenhinol Aberffraw. O bosib wedi ei ladd gan Gruffydd ap Llywelyn yn 1039
1039-1063
Gruffydd ap Llywelyn – mab Llywelyn ap Seisyll – Brenin Gwynedd a Powys, yn ddiweddarach yn Frenin dros Gymru.
Mae’n debyg iddo ddod yn frenin Gwynedd a Powys ar ôl lladd Iago mewn brwydr.
1063-1070
Rhiwallon ap Cynfyn – hanner brawd Gruffydd ap Llywelyn – Brenin Gwynedd a Powys
Cafodd ei osod fel cyd-frenin gan Harold Godwinson yn 1063. Lladdwyd mewn brwydr yn erbyn meibion Gruffydd ap Llywelyn.
1063-1075
Bleddyn ap Cynfyn – hanner frawd Gruffydd ap Llywelyn – Brenin Gwynedd a Powys
Cafodd ei osod fel cyd-frenin gan Harold Godwinson yn 1063.
1075-1081
Trahaearn ap Caradog – Brenin Gwynedd a Deheubarth
Enillodd yr orsedd yn answyddogol ar ôl marwolaeth Bleddyn ap Cynfyn
1081-1137
Gruffydd ap Cynan – mab Cynan ap Iago – Brenin Gwynedd a Chymru gyfan
Gan ei fod yn ŵyr i Iago ab Idwal, fe ddaeth yn frenin cyfreithlon, ac unwaith eto adferwyd teyrnas Gwynedd i’r Llys Brenhinol yn Aberffraw.
1137-1170
Owain ‘Gwynedd’ ap Gruffydd – mab Gruffydd ap Cynan – Brenin Gwynedd a Tywysog Cymru
(wedi ei gladdu yng Nghadeirlan Bangor)
1170-1195 – fe wnaeth meibion Owain Gwynedd frwydro am diriogaeth Gwynedd am 25 o flynyddoedd. O ganlyniad methwyd rheoli Gwynedd yn llawn
1170
Hywel ab Owain Gwynedd – mab Owain ap Gruffydd – Brenin Gwynedd
Rheolodd am lai na blwyddyn cyn cael ei ladd gan ei hanner brawd anghyfreithlon Dafydd ap Owain. Caiff ei adnabod fel y bardd dywysog.
1170-1174
Iorwerth ‘Drwyndwn’ ap Owain – mab Owain Gwynedd – Tywysog Gogledd Cymru
Roedd yn dad i Llywelyn Fawr. Ni wnaeth erioed ennill yr orsedd fel tywysog cyfreithlon , er ei fod ganddo gefnogaeth lleol, ond nid ennillodd bŵer oherwydd anffurfiad corfforol. Fe gafodd ei ladd yn ifanc mewn brwydr.
1170-1195
Dafydd ab Owain Gwynedd – mab Owain ap Gruffydd – Cyd-Dywysog Gwynedd (trawsfeddiannwr)
Enillodd yr orsedd gyda’i frawd anghyfreithlon gan ladd ei hanner brawd Hywel ab Owain.
1175-1195
Rhodri ab Owain Gwynedd – mab Owain ap Gruffydd – Cyd-Dywysog Gwynedd (trawsfeddiannwr)
Enillodd yr orsedd gyda’i frawd anghyfreithlon uwchod
Tywysogion Gwynedd
1195-1240
Llywelyn ap Iorwerth ‘Fawr’ – ŵyr Owain Gwynedd – Tywysog Gwynedd, Aberffraw ac Arglwydd Eryri
Ar ôl cipio’r orsedd oddi wrth ei ewyrth Dafydd yn 1195, fe wnaeth gyhoeddi ei hun fel gwir etifedd gorsedd Gwynedd, a daeth yn un o’r arweinydd mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Fe briododd Siwan ferch John, Brenin Lloegr.
delw garreg beddrod y Dywysoges Siwan (Joan) – gwraig i Llywelyn ap Iorweth a merch anghyfreithlon y Brenin John o Loegr
1240-1246
Dafydd ap Llywelyn – mab Llywelyn ap Iorwerth – Tywysog Cymru
Fe enillodd y teitl Tywysog Cymru, ag enwebodd ei hun yn dywysog, fel unig etifedd gorsedd Gwynedd a thywysogaeth Cymru.
1246-1282
Llywelyn ap Gruffydd ‘Llywelyn Ein Llyw Olaf’– mab Gruffydd ap Llywelyn Fawr – Tywysog Cymru
ŵyr Llywelyn Fawr, mab hynaf o’i briodas cyntaf. Yn cael ei adnabod fel Tywysog olaf Cymru, ar ôl adnewyddu gwrthryfel yn erbyn Edward I brenin Lloegr yn 1282. Fe gafodd ei ladd mewn ysgarmes ger Llanfair-ym-Muallt.
1282-1283
Dafydd ap Gruffydd – mab Gruffydd ap Llywelyn Fawr – Tywysog Cymru – Roedd yn frawd i Llywelyn ap Gruffydd.
Fe wnaeth barhau gobeithion gwrthwynebiad Cymru am ychydig o fisoedd cyn y gosb eithaf yn 1283 gan Edward I brenin Lloegr. Mae yn cael ei adnabod yng Nghymru fel y gwir dywysog olaf.
1283-1400
Am dros ganrif fe reolwyd Cymru gyfan gan frenhinoedd Lloegr, gyda gwrthwynebiad yn eu herbyn yn achlysurol. Arweiniodd hyn yn 1400 at wrthryfel Cymreig Owain Glyndŵr
1400-1415
Owain Glyndŵr – disgynnydd Madog ap Maredudd a thywysogion eraill – Cyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru
Yn 1400, fe arweiniodd Owain Glyndŵr derfysg yn erbyn Harri IV Brenin Lloegr, gan ennill grym yn gyflym, a rheoli rhan fwyaf o Gymru yn llwyddiannus erbyn 1405. Fe sefydlodd senedd gan gwneud cytundeb a’r cynghreiriaid a’r llywodraethau tramor. Ar ôl 1405, fe ddirywiodd ei bŵer a’i gefnogaeth yn raddol, tra cryfhaodd rhagoriaeth Lloegr. Erbyn 1409, fe orchfygwyd ei luoedd a’i gynghrair mewn brwydr yn Harlech. Fe oroesodd, gan barhau a’i wrthryfel hyd at 1412.
Nid oes dim tystiolaeth o hanes Owain Glyndŵr ar ôl y dyddiad hyn, er bod sôn iddo farw yn 1415.