Siambrau Claddu Gwynedd ac Ynys Môn
(3000CC – 2000CC)
Cychwynna’r cyfnod Neolithig yn 4000 CC, oddeutu’r cyfnod pan ddechreuodd cymunedau ffermio a setlo mewn ardaloedd, gan roi heibio ffordd o fyw yr heliwr/gasglwr. Wrth i gymunedau teuluol bychain sefydlogi, tyfodd y boblogaeth hefyd, gan osod pwys ychwanegol ar amaethyddiaeth, creu tiroedd fferm ychwanegol a thrawsffurfio’r tirwedd o’u cwmpas.
O gwmpas y cyfnod hwn yr adeiladwyd strwythurau Megalithig. Adeiladwyd y beddi siambr gan fwyaf oddeutu 3500 CC ar gyfer claddu meirw’r gymuned, a byddai rhai ar gyfer claddfeydd cyffredinol gyda thomen bridd neu garnedd gerrig drostynt. Mae’r math hyn o siambrau claddu i’w gweld yn Bryn Celli ddu a Barclodiad y Gawres ym Môn, y siambrau claddu enwocaf yng Nghymru mae’n siŵr.
Mathau o siambrau claddu
Beddau Cyntedd – gyda chyntedd cul wedi ei wneud o gerrig mawr. Mae rhai yn cynnwys llawer o feddau (mae rhai gyda to corbel)
Beddrodau siambr – wedi eu gorchuddio a thomen
Siambr Carnedd – siambr wedi gorchuddio gan gerrig (efallai fod rhai yn feddau cyntedd)
Dolmen (Cromlech) – fel rheol beddrodau siambr yn unig gyda chapfaen (bedd porthol) – (term hynafol am siambr gladdu)
Tomen Crwn (Crugiau) – pentwr (bryncyn) o bridd yn gorchuddio bedd – Oes yr Efydd
Siambr Gladdu Hir – tomen hir Neolithig yn gorchuddio llawer o siambrau claddu
Carnedd – twmpath crwn o gerrig wedi gorchuddio bedd
Nid yw carneddi cylchog yn gynwysedig yn y rhestr gan fod yna ormod ohonynt. Mae’r rhain yn cynnwys pentyrrau o gerrig sy’n gorchuddio beddau o Oes yr Efydd Ddiweddarach hyd at Oes yr Haearn. Nid ydynt yn cael ei hystyried gyda’r un parch a’r siambrau claddu meini mawr Neolithig.
Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle er mwyn ei lleoli trwy ddefnyddio map O/S.