Meini Hirion y Gogledd Gorllewin
Adeiladwyd meini hirion a chylchoedd yn ystod yr Oes Neolithig ddiweddar a’r Oes Efydd gynnar (c. 3500 CC – 1400 CC), cyfnod o dros 2000 o flynyddoedd.
Ni wyddom lawer am gredoau crefyddol y bobol a greodd y fath adeiladau, ac ni wyddom ddim am eu pwrpas. Profodd y meini hyn yn anodd i’w dyddio. Er hyn, drwy’r crochenwaith a ddarganfyddwyd o dan rai o’r meini, gellir cymryd y codwyd hwy o bosib rhwng yr Oes Neolithig ddiweddar a’r Oes Efydd gynnar, efallai yng nghyfnod y diwylliant y bicer, neu hyd yn oed ynghynt.
Gwyddom eu bod wedi claddu eu meirw mewn beddi, a’u bod yn alluog a threfnus wrth gyflawni’r fath orchwylion. Rhaid ystyried bod arferion yn newid, a thwf wedi bod mewn athroniaeth a chredoau crefyddol newydd yn cynnwys syniadau am ddefodau a hierarchaeth gymdeithasol.
Casglwyd bod y meini hirion o bosib yn hŷn na’r claddfeydd, ond bu’n anodd profi eu pwrpas. Gallem ddamcaniaethu bod y cerrig wedi eu gosod i ddarllen safle’r haul, neu amcan seremonïol fel defodau ffrwythloni neu dymhorol ar gyfer cymunedau ffermio cynnar, neu hyd yn oed fel arwyddbyst tuag at lwybrau hynafol neu siambrau claddu.
Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle






