Llysoedd Brenhinol Teyrnas Gwynedd
Er y byddai brenhinoedd cynnar Gwynedd wedi seilio eu hunain ar eu hoff lys, calon teyrnas Gwynedd drwy’r oesoedd oedd Aberffraw, y man lle cychwynnodd y cwbl yn y cyfnod Rhufeinig.
Byddai llys brenhinol Gwynedd bob amser yn symud o le i le mewn cylchdaith, gyda phob gorsedd gyda’i Llys Brenhinol neu Faerdref, prif ganolfan weinyddol i reoli’r holl faterion lleol megis casglu trethi a chyfiawnder.
Erbyn hyn ni wyddwn fawr ddim am safleoedd llysoedd Brenhinol Gwynedd. Collwyd hwy gan Amser, eu gorchuddio gan gaeau, ffermydd a phentrefi wedi concwest Edward I brenin Lloegr.
Isod ceir rhestr o’r mwyafrif o’r Llysoedd Brenhinol Canoloesol yn yr ardal
Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle hanesyddol er mwyn ei lleoli trwy ddefnyddio map O/S.
Ynys Môn
Llys Aberffraw – Prif Lys Brenhinol, cartref brenhinol Teyrnas Gwynedd – Faerdref Malltraeth – Aberffraw SH353689
Llys Llanfaes – Llys Brenhinol Teyrnas Gwynedd – Faerdref Dindaethwy – Biwmares SH607775
Cae Llys Rhosyr – Llys Brenhinol Teyrnas Gwynedd (wedi eu darganfod yn 1992) – Faerdref Menai – Niwbwrch SH430651
Caer Gybi – Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd (wedi ei leoli ar y safle Caer Rufeinig) – Caergybi SH247827
Cemaes (Cemais) – Llys Brenhinol Teyrnas Gwynedd – Maerdref Talybolion (efallai wedi ei leoli ger eglwys Llanbadrig) – Cemaes SH375946
Talebolyon (Tal-y-Bolion) – Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd (safle anhysbys) – Llanfaethlu SH313869
Penrhos (Penrhosllugwy) – Llys Brenhinol Teyrnas Gwynedd – Maerdref Twrcelyn (safle anhysbys, credwyd fod efallai wedi ei leoli ar safle Plas Lligwy) – Moelfre SH497859
Gwynedd
Llys Caer Segont – Prif Lys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd – Maerdref Cantref Arfon (Llys cynharach wedi ei sylfaenu yng Segontiwm, ac yn ddiweddarach ar safle Castell Caernarfon) – Caernarfon SH485623
Cantref Arfon – Llys Brenhinol Teyrnas Gwynedd – Maerdref Cantref Arfon (efallai fod yna Lys wedi ei sefydlu ar safle Castell Caernarfon (ad-enillodd y Cymry y castell mwnt a beili, yn 1115) – Caernarfon SH476626
Dolbadarn – Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd (Merfyn Frych) – Llanberis SH586598
Castell – Mwnt a Beili y Normaniaid (efallai yn Llys canoloesol) (clawdd pridd) – Rhiwlas SH569655
Llys Dinorwig – Llys Brenhinol cylchdaith Llywelyn ap Gruffydd – Brynrefail SH632562
Llys Aber – Garth Celyn (Pen y Bryn) – Llys Brenhinol diweddarach Teyrnas Gwynedd – Abergwyngregyn SH658732
Pen y Mwd – (safle mwnt castell a hefyd safle dadleuol Llys Aber) – Abergwyngregyn SH656733
Din-Ganwy – Prif Lys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd – Maerdref Conwy –Deganwy SH782794 (gw. Cestyll)
Llys Rhun, Caer-Rhun (Caer Ganwy) – Plas Brenhinol Brenin Rhun (wedi ei enwi ar ôl Brenin Rhun, ei hoff blas, a oedd wedi ei leoli yng Nghaer Rhufeinig Kanovium) – Caerhun SH776703
Trefriw – Llys Brenhinol Teyrnas Gwynedd (efallai wedi ei leoli ar safle eglwys Ebeneser) – Trefriw SH780631
Bodysgallen – Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd ( wedi ei cysylltu gyda teyrnasiad cynharaf Cadwallon) – Llandudno SH799792
Rhos – Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd (efallai wedi ei leoli ar safle Bryn Euryn) – Llandrillo yn Rhos SH832798
Rhuddlan – Llys Brenhinol Teyrnas Gwynedd – Cantref Gruffydd ap Llywelyn (wedi ei leoli ar safle Castell Twthill, sydd gyda olion mwnt a beili) – Rhuddlan SJ026776