Canllaw llinell amser hanesyddol drwy’r oesoedd
o’r cyfnod Palaeolithig i’r Ail Ryfel Byd
Paleolithig (Oes y Cerrig Gynnar) 2 Miliwn – 10,000 C.C.
Mae tystiolaeth bod Homo Erectus ym Mhrydain ers tua 700,000 CC , drwy ddarganfyddiadau cerrig callestr yn Suffolk, pan oedd Prydain wedi ei chysylltu â chyfandir Ewrop. Mae’r asgwrn dynol hynaf a ddarganfyddwyd ym Mhrydain yn dyddio’n ôl i tua 480,000 CC , sef yr hyn a elwir yn “Boxgrove Man” , aelod o rywogaeth yr Homo Heidelbergensis. Yn y cyfnod hwn ‘roedd rhewlifoedd Oes yr Iâ yn ymdonni gan achosi ambell gyfnod cynnes ac ambell weithgaredd dynol.
Amcanwyd bod y Neanderthaliaid ym Mhrydain o tua 130,000 CC hyd eu diflaniad tua 34,000 CC. Ond yn 1981 yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych darganfyddwyd dannedd ac asgwrn gên Neanderthalaidd 230,000 o flynyddoedd oed, sy’n rhoi dyddiad llawer cynharach i’r cyfnod rhyng -rhewlif pan breswyliai’r Neanderthaliaid ym Mhrydain. ‘Roedd y cyn-Neanderthaliaid cynnar hyn yn byw ym Mhrydain cyn yr Oes Iâ ddiwethaf, a chawsant eu gorfodi tua’r De tua 200,000 o flynyddoedd yn ôl gan gyfnewidiadau tywydd eithafol.
700,000 CC
tystiolaeth Homo Erectus ym Mhrydain
180,000 CC
ffurfio Sianel Môr Udd
Gorchuddiwyd Prydain gan yr Oes Iâ Ddiwethaf rhwng 70,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
45,000- 10,000 CC
Y cyfnod Paleolithig Diweddar. Mae’r bobol fodern cyntaf yn cyrraedd Prydain fel helwyr/gasglwyr tua 33,000 o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod a elwir “ Upper Paleolithic”. ‘Roedd De-ddwyrain Prydain yn dal yn gysylltiedig â chyfandir Ewrop yr adeg hon.
Yn 1823 ar Benrhyn Gwyr, De Cymru darganfyddwyd gweddillion sgerbwd “ Boneddiges Goch Paviland “ oedd yn 33,000 o flynyddoedd oed ( er mai esgyrn gwr ifanc oeddynt mewn gwirionedd).
Rhwng 22,000 a 14,000 o flynyddoedd yn ôl , credir bod cyfnod byr eithafol o oer wedi gorfodi pobol tua’r De ac allan o Brydain yn llwyr hyd nes i’r Oes Iâ Ddiwethaf ddechrau meirioli. Dyddiwyd tystiolaeth o bobol fodern yn dychwelyd i Brydain wrth i’r rhew doddi i tua 14,700.
Mesolithig a Neolithig
8000 – 4000 C.C.
Mesolithig – 10,000 o flynyddoedd yn ôl, wrth i’r rhew gilio, mae tonnau o helwyr/gasglwyr yn dechrau mewnfudo i Brydain, a thua 5,600 CC mae tir Prydain yn gwahanu o gyfandir Ewrop.
4000 – 2500 C.C.
Neolithig (Oes y Cerrig Newydd) – Daw’r cymunedau ffermio cyntaf â newid diwylliannol newydd mewn arferion ffermio ac adeiladu megalithig.
c. 3500 – 1400 C.C.
Meini hirion a chylchoedd cerrig wedi sefydlu yn ystod y cyfnod hwn
c. 3100 C.C.
Skara Brae – anheddiad Neolithig a adeiladwyd gan garreg, Ynysoedd Erch
c. 3000 C.C.
Diwylliant ‘Windmill Hill’, Gwastadedd Caersallog (Salisbury)
c. 3000 – 2000 C.C.
Siambrau claddu wedi eu hadeiladu yn Mhrydain yn ystod y cyfnod hwn
c. 3000 – 2000 C.C.
Côr y Cewri (cyfnod 1af 2950 C.C.)
c. 2700 – 2200 C.C.
(cylch cerrig) Avebury
c. 2500 C.C.
Diwylliant Pobol y Bicer yn cyrraedd o Ewrop (tomeni crynion)
c. 2500 C.C.
Côr y Cewri (3ydd cyfnod)
c. 2500 -2000 C.C.
Castell Bryngwyn – hengor neoliithig, Ynys Môn (tua diwedd yr Oes Neolithig)
Oes yr Efydd 2500 – 800 C.C.
c. 2500 – 1500 C.C.
Oes gynnar yr Efydd
c. 2000 – 1400 C.C.
Diwylliant Wessex (diwedd adeiladu Côr y Cewri – 1800 C.C.)
Yr oedd y diwylliant newydd hwn wedi ei sylfaenu yn ardal de Lloegr heb lawer o ddylanwad ar lwythau y Gogledd.
c. 1500 – 800 C.C.
Oes ddiweddarach yr Efydd
c. 1400 – 1000 C.C.
clwstwr cytiau crynion (Oes Ganol yr Efydd hyd at Oes yr Haearn)
c. 1200 C.C.
mewnfudwyr Celtaidd cyntaf (Oes ddiweddarach yr Efydd hyd at Oes yr Haearn)
Celtiaid yn siarad ieithoedd Goideleg yn cyrraedd rhywbryd rhwng 2000-1200 C.C, hynafiaid mae’n debyg I’r siaradwyr Albaneg fodern a Gaeleg Gwyddelig .
Oes yr Haearn 800 C.C. – 60 O.C.
c. 700 C.C. – 50 O.C.
Bryngaerau Oes yr Haearn
c. 600 – 400 C.C.
Dylifiad cyntaf y Celtiaid – Fe wnaeth y prif ddylifiad o siaradwyr Celtaidd gyrraedd rhywbryd yn ystod y cyfnod hwn. (mae Cymraeg fodern a Chernyweg wedi hanu o Frythoneg)
Roedd y Celtiaid yn credu yn eu hamgylchedd a bod gwrthrychau gyda chysylltiadau hudol yn arwain at ddefod ac aberth. Roedd y Derwyddon yn offeiriadon oedd yn cael eu dewis o’u geni i ddilyn y ffordd yma o fyw, a’r unig aelodau o’r llwyth gyda chaniatâd i gynnal y seremonïau. ‘Roedd eu mannau sanctaidd wedi eu lleoli mewn llwyni cysegredig.
Llyn Cerrig Bach (isod) – safle cysegredig pwysig Oes yr Haearn hynafol (o gwmpas 181 o arteffactau Oes yr Haearn wedi ei darganfod yn 1942, yr darganfyddiad archeolegol pwysicaf yng Nghymru)
c. 350 C.C.
Ail ddylifiad y Celtiaid (300 C.C. – hanes cynharaf y Derwyddon) – Fe wnaeth yr ail lif o ymfudwyr Celtaidd sefydlu yng Nghymru, yn cynnwys llwyth yr Ordofigiaid a’r Deceangli.
c. 200 C.C.
Trydydd dylifiad y Celtiaid
Roedd yna hefyd ddylifiad bychan o Geltiaid Belgaidd wedi sefydlu yn ardal de Lloegr yn ystod y ganrif gyntaf CC – efallai wedi dianc rhag ymosodiad y Rhufeiniaid.
Cyfnod y Rhufeiniaid 60 – 411 O.C.
60 O.C.
Ymosodiad y Rhufeiniad ar Ynys Môn – Arweiniwyd gan Gaius Suetonius Paulinus, a ddaeth a diwedd ar Dderwyddon Ynys Môn a gwanhau lluoedd y Deceangli a oedd yn eu gwrthwynebu.
77 – 78 O.C.
Caer Rhufeinig Segontiwm – Caer gynorthwyol Rhufeinig wedi ei sefydlu yn 77 O.C. gan Julius Agricola
78 – 79 O.C.
Julius Agricola, Llywodraethwr Rhufeinig – Parhaodd ei ymgyrch wrth ymosod ar y Deceangli ar Ynys Môn. Yn dilyn ei fuddugoliaeth fe sefydlodd y llwyth ac ymostwng a byw o dan reolaeth y Rhufeiniaid.
383 – 388 O.C.
Macsen Wledig (gw. Teyrnas Gwynedd)
Canoloesol 410 O.C. – 1485 O.C.
c. 400au
Teyrnas Gwynedd – Dechreuodd gyda Cunedda tua 442 O.C. a gorffen gyda Llywelyn ap Gruffydd yn 1282.
c. 450 – 1066
Eingl-Sacsoniaid – Mae’n debyg eu bod wedi sefydlu teyrnas yn Ceint yn 450, ond ni wnaethant orchfygu Cymru.
c. 500
Oes y Seintiau – Dewi Sant Nawddsant Cymru – tua 500-589 (Yn ystod yr amser hyn, ymddangosodd chwedl am Santes Dwynwen, oedd wedi ceisio dianc oddi wrth Maelgwyn Hir tua 540 O.C.)
c. 865
Y Llychlynwyr – Goresgyn a sefydlu yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr
Ni wnaeth y Llychlynwyr lwyddo i reoli Cymru i gyd, oherwydd y brenhinoedd pwerus Cymreig, ond fe wnaethant ysbeilio ardaloedd arfordirol Ynys Môn, gan achosi anrhefn i’r brenhinoedd . Fe wnaeth canran bychan o Lychlynwyr sefydlu yn y Ne Cymru.
1066 – 1154
Y Normaniaid – William I ‘y gorchfygwr’
Erbyn 1094 yr roedd y rhan fwyaf o Gymru o dan reolaeth William II Brenin Lloegr. Erbyn 1101 roedd y Brenin Gruffydd ap Cynan wedi adennill teyrnas Gwynedd yn ôl.
1154 – 1485
Cymru Canoloesol ac Oes y Cestyll
Yn ystod cyfnod hwn brwydrodd y brenhinoedd Cymreig yn erbyn y brenhinoedd ‘Plantagenet’ Seisnig pwerus. ‘Roeddynt yn amharod i ddatgan gwrogaeth ond yn y diwedd bu rhaid iddynt roi’r gorau i’w teitl fel brenhinoedd, a dod yn Dywysogion Cymru. Harri II oedd brenin ‘Plantagenet’ cyntaf Lloegr, ac yn 1283 fe wnaeth Edward I brenin Lloegr orchfygu Cymru ar ôl i Llywelyn ap Gruffydd , tywysog olaf Cymru, gael ei ladd mewn cudd-ymosodiad yn Llanfair-ym-Muallt.
1221
Castell Dolbadarn – Adeiladwyd gan Llywelyn Fawr
1283
Castell Caernarfon – Un o gestyll mawr yr arfordir. Adeiladwyd gan Edward I Brenin Lloegr.
1400 – 1412
Gwrthryfel Cymru – Mi wnaeth Owain Glyndŵr arwain gwrthryfel yn erbyn Harri IV Brenin Lloegr a chafodd ei gyhoeddi’n dywysog Cymru tan ei ddiflaniad yn 1412. Nid oes hanes am Owain ar ôl hyn.
Oes y Tuduriaid hyd at yr Ail Ryfel Byd
1485 – 1714
Oes y Tuduriaid a’r Stiwardiaid (Harri VII hyd at y Frenhines Anne)
1642 – 1651
Rhyfel Cartref Lloegr (y gosb eithaf i Siarl I yn 1649)
1653 – 1659
Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr – Oliver Cromwell a Richard Cromwell
1660
Siarl II Brenin Lloegr – Adferiad y Frenhiniaeth
1714 – 1837
Yr Hanoferiaid (y Sioriaid – Brenhinoedd Lloegr, Siôr I hyd at William IV)
1770’au
Diwydiant llechi – chwarel Penrhyn 1770’au, a chwarel Dinorwig 1787-1969
1803 – 1815
Y Rhyfeloedd Napoleonaidd – Yn erbyn Napoleon ac Ymerodraeth Ffrainc
1837 – 1900
Cyfnod y Fictoriaid – Fictoria, Brenhines Prydain
1853 – 1856
Rhyfel y Crimea – Rhyfel rhwng lluoedd Ymerodraeth Rwsia a lluoedd Prydain, Ffrainc ac Ymerodraeth yr Otoman.
1880 – 1902
Rhyfeloedd y Boer – Yr Ymerodraeth Brydeinig yn erbyn gwladychwyr Iseldireg, yr Orange Free State a Gweriniaeth y Transvaal yn ystod 1880–1881 a hefyd 1899–1902
1914 – 1918
Y Rhyfel Byd Cyntaf
1939 – 1945
Yr Ail Ryfel Byd