Cylchoedd Cerrig a Hengorau
Dechreuwyd gosod y cylchoedd cerrig rhywbryd rhwng yr Oes Neolithig ddiweddar a’r Oes Efydd gynnar. Ar ôl 2500 CC daeth y cylchoedd hyn yn fwy poblogaidd ym Mhrydain, gyda llawer o’r cerrig wedi eu codi o fewn “ hengor” a fodolai yn barod. Bu’n anodd dyddio’r cofadeiladau hyn yn gywir gan nad oedd unrhyw arteffactau archeolegol eraill yn gysylltiedig â nhw.
Mae Cylch y Derwyddon uwchben Penmaenmawr yn un o lawer o’r cylchoedd cerrig sydd wedi eu gwasgaru yn ardal Tan y Fan. Hwn yw’r esiampl gorau a mwyaf adnabyddus yn y rhan yma o Gogledd Cymru. Er fod yn cael ei alw yn ‘Cylch y Derwyddon’, nid oes unrhyw gysylltiad perthnasol i’r derwyddon hynafol, gan fod y clych cerrig yn hynach o dros filoedd o fynyddoedd.
Isod ceir rhestr o’r mwyafrif o’r cylchoedd cerrig a hengorau yn yr ardal
Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle hanesyddol er mwyn ei lleoli trwy ddefnyddio map O/S.
Moel Faban – Carneddau cylchog o’r Oes Efydd – Llanllechid SH637681
Carnedd cylchog A – slabiau unionsyth gyda chlawdd amgylchynol mawr o bridd a cherrig / Carnedd B – carnedd gladdu wedi’i gorchuddio â cherrig (posibl)
(Nid oes unrhyw gysylltiad gweladwy rhwng y cylchoedd hyn ac maent yn aml yn cael eu drysu â chytiau crwn posibl)
Tre’r Dryw Bach – cylch cysegredig (wedi ei dinistrio, efallai yn olion ffos hirgrwn) – Brynsiencyn, Anglesey SH464671

delwedd: William Stukeley c.1740
Castell Bryngwyn (clawdd pridd) – hengor Neolithig diweddarach / amddiffynfa gaeedig (Neolithig 2500-2000BC hyd at cyfnod y Rhufeiniaid) – Llanidan, Ynys Mon SH465670
Llandygai – defodau cofgolofn Neolithig a dwy hengor (wedi ei dinistrio gan stad ddiwydiannol) – Llandygai SH594710

Cwrsws & Hengor Llandygai – delwedd o’r awyr gan CUCAP 1960 (c)
Cors y Carneddau, Cefn Coch – cylch gerrig (9 cerrig) – Penmaenmawr SH718746
Cylch y Derwyddon ‘Druid’s Circle’ – cylch gerrig a meini hirion Oes yr Efydd cynharaf– Penmaenmawr SH723746
Cofgolofn 280 – cylch gerrig carnedd gylchog Megalithig – Penmaenmawr SH722746
Cylch 278 – carnedd gylchog Oes yr Efydd (ger Cylch y Derwyddon) – Penmaenmawr SH721746
Cylch 275 “Derwydd Bach” – cylch gerrig Oes yr Efydd diweddarach(5 cerrig) – Penmaenmawr SH725747
Cylch Ffarm Goch (Bryn Derwydd) – cylch gerrig – Penmaenmawr SH732751
Hafodty – cylch gerrig Oes yr Efydd – (gerHenryd) Conwy SH747753
Cerrig Pryfaid – cylch gerrig Oes yr Efydd (10 cerrig) – (ger) Rowen SH724713
Hwyfa’r Ceirw – rhes gerrig aliniad (efallai yn llwybr hynafol) – Llandudno SH765840
(Rhodfa 90m o hyd o ddwy linell gyfochrog o gerrig yn arwain at bant serth yn arwain i lawr y clogwyn)
Carnedd Llyn Eiddew – carnedd gylchog Oes yr Efydd – (ger) Talsarnau, Harlech SH646349
Bryn Cader Faner – carnedd cylch cerrig trawiadol Oes yr Efydd, gyda 18 o meini hirion – (ger) Talsarnau, Harlech SH647352
Moel Ty Uchaf – cylch cerrig Oes yr Efydd – (43 cerrig cerb) – Llandrillo, Sir Dinbych SJ05603717
Tyfos Uchaf – siambr gladdu hir Oes yr Efydd (carnedd cylchog) – Llandrillo, Sir Dinbych SJ028387
Brenig 44 carnedd cylchog – siambr gladdu hir Oes yr Efydd (carnedd cylchog) – Llyn Brenig, Sir Dinbych SH98335720
Brenig 51 carnedd lwyfan – Carnedd Gladdu Oes yr Efydd / siambr gladdu hir – Llyn Brenig, Sir Dinbych SH98985656
Brenig 46 – Carnedd Gladdu Oes yr Efydd – Llyn Brenig, Sir Dinbych SH98575690
Brenig 8 – carnedd ymylfaen Oes yr Efydd – Llyn Brenig, Sir Dinbych SH98795635