English ardal@ardal-wales.co.uk

Cytiau Crynion

Cytiau'r Gwyddelod - clwstwr cytiau Mynydd Caergybi

Anheddau Cytiau Crynion

adwaenir hefyd fel Tai Crynion (Ty Crwn), Cylchoedd neu Clwstwr Cytiau

Erbyn 2500 CC ‘roedd ffermwyr wedi dechrau symud tua’r ardaloedd mynyddig i sefydlogi a ffermio. Dengys tystiolaeth archeolegol bod cytiau crwn yn cael eu anheddu o ganol Oes yr Efydd drwodd i oes aur y cytiau cerrig yn ystod Oes yr Efydd ddiweddar, a bod adeiladau cerrig yn cael eu anheddu o’r Oes yr Haearn hyd y 5ed ganrif OC.

Roedd rhan fwyaf o tai crynion wedi ei casglu mewn clwstwr, gyda rhai o fewn anhedda gaeedig, ag eraill wedi eu gwasgaru mewn clwstwr ar fryniau.

Adeiladau ar ffurf cylch oedd tai crynion, wedi eu codi fel arfer gyda waliau cerrig, neu byst coed gyda phaneli o blethwaith a chlai, gyda thô gwellt pigfain.‘ Roedd y plethwaith wedi ei wneud o baneli o ffyn wedi eu plethu a’ u plastro â chlai a gwellt.

Gwneid y to gwellt fel arfer o frwyn , ac ‘roedd yn eithaf trwchus. Er nad oedd  ganddynt simnai, treiddiai’r mwg o’r aelwyd drwy’r tô heb achosi tân. Cynhelid y tô gwellt gyda ffrâm o ddistiau pren hir mewn cylch o saith ochor, gyda thrawstiau.

Dangosodd arbrofion archeolegol nad oeddent yn defnyddio simneiau mewn cutiau crwn.

Y rhain yw rhai o’r pentrefi, yn dyddio o’r Oes Efydd ddiweddar hyd Oes yr Haearn a thrwodd i’r cyfnod Rhufeinig, pan sefydlogodd poblogaeth Ynysoedd Prydain gan ddod yn ddinasyddion yn y  Brydain Rufeinig.

 

Mae’r lluniau isod yn dangos sut y buasai tai crynion yn edrych

Cae Mabon

Oherwydd cymaint o aneddiadau hynafol wedi’u gwasgaru ledled yr ardal, dim ond yr ardaloedd cyfagos a restrir isod yr wyf wedi’u cynnwys

Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle hanesyddol er mwyn ei lleoli trwy ddefnyddio map O/S.


Cliciwch ar y dolenni isod ar gyfer pob ardal

Ynys Môn

Din Lligwy

Llanfairfechan / Abergwyngregyn

Llanllechid

Dyffryn Ogwen

  anheddau cytiau crynion caeedig Mynydd Du

Llanddeiniolen

Cae Metta

Llanrug / Llanberis

ardal Caernarfon / Llanwnda

Coed Glan yr Afon

Rhostryfan / Rhosgafan

Dyffryn Nantlle

Caeronwy Uchaf (B) – cytiau caeedig

Dolbenmaen

Dyffryn Ardudwy a Harlech

Ardaloedd Eraill


Mae’r rhif map O/S wedi ei gynnwys ar pob safle
COFIWCH Y COD CEFN GWLAD 2022
chwilio am lwybrau cyhoeddus
Tybiwch y gall y rhan fwyaf o ardaloedd fod ar dir preifat ac efallai y bydd angen caniatâd i grwydro
Rhaid cymryd diogelwch a gofal bob amser, gan fod rhai ardaloedd yn anodd eu cyrraedd oherwydd bryniau a llethrau a allai arwain i ffwrdd o lwybrau.