English ardal@ardal-wales.co.uk

Cyfnod y Rhufeiniaid

segontium (2) 6. DSCF5749

Cyfnod y Rhufeiniaid 60 – 411 O.C

IMG

Yn 43 AD cychwynnodd yr ymerawdwr Rhufeinig Claudius ar ei goncwest filitaraidd o Brydain, ac ymhen 17 blwyddyn yn 61 AD, gorchfygodd Gaius Suetonius Paulinus y Derwyddon ar Mona (Môn). Credai’r Rhufeiniaid fod y Derwyddon yn bygwth eu rheolaeth drwy ddylanwadu ar lwythi brodorol Prydain, gan roi cyngor i’r penaethiaid oedd yn eu gwrthwynebu ac yn annog eu rhyfelwyr i ymladd hyd farwolaeth. Y bwriad oedd dinistrio Urdd y Derwyddon a’r ganolfan Dderwyddol ym Môn.

Yn dilyn eu buddugoliaeth dros y Derwyddon, dinistriodd milwyr Gaius Suetonius lennyrch sanctaidd y bobol. Goresgyniad byr oedd hwn, wrth i Gaius Suetonius Paulinus dynnu ei filwyr ymaith a’u gorymdeithio tua’r De i orchfygu gwrthryfel Boudicca a’r milwyr Iceni.

Yn 78-79 AD parhaodd y Llywodraethwr Rhufeinig Julius Agricola ar y gwaith o goncro Môn, gan ymosod ar y Decangli ym Mona a chipio rheolaeth lwyr o’r ardal. Mae’n debyg i weddill y llwythi a’r cymunedau brodorol ildio a setlo o dan drefn y Rhufeiniaid.

Caerau ac Anheddau Rhufeinig

Caer Segontiwm yn y 3ydd ganrif O.C - gan K F Banholzer

Setlodd rhai cymunedau y tu allan i geyrydd y Rhufeiniaid, mewn pentrefi cysylltiol a elwid “ Vicus”, oedd o bosib yn cael statws uwch na phentrefi eraill cyfagos. O dan yr amgylchiadau hyn mae’n debyg y byddent yn ddarostyngedig i gyfraith Rhufain, ac yn rhydd i fasnachu. Byddai cael cronfa o weithwyr  lleol yn hollbwysig ar gyfer adeiladu ffyrdd ac i dorri cerrig.

‘Roedd ambell i lwyth gwledig yn dal i fasnachu mewn grwpiau llai, gan ffurfio diwylliant Rhufain-Brydeinig yn eu pentrefi bach caeedig. Datblygodd ffermio’n gyfraniad pwysig i barhad gweinyddiaeth y Rhufeiniad yng Ngogledd Cymru. Er gwaethaf rheolaeth Rhufain, parhaodd ymosodiadau ysbeidiol mewn rhai ardaloedd mynyddig.

‘Roedd Segontium yn Nghaernarfon yn gaer atodol ers pan y’i sefydlwyd yn 77-78 AD gan Julius Agricola. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol i arglwyddiaethu dros afon Menai gan alluogi goresgyniad Môn. Daw ei henw o’r afon Seiont gerllaw, neu o bosib o enw llwyth y Segontiaci, llwyth lleol a enwyd gan Julius Cesar. Hon oedd prif gaer y Rhufeiniad yng Ngogledd Cymru am 330 o flynyddoedd, ac fe’i cynlluniwyd i gartrefu tua 1000 milwyr troed atodol. Fe’i lleolir tua 150 troedfedd (45 m) uwchben y môr, ar lecyn gwastad naturiol, gan gynnig golwg eang i bob cyfeiriad at y mynyddoedd, y Fenai a Môn. Ei siâp yw’r un cerdyn chwarae arferol, ac mae’n 5.6 acer (2.27 hectar) o arwynebedd, gyda ffosydd amddiffynnol a phedwar porth. Cynhwysai’r garsiwn gwmnïau o filwyr atodol a rhan-farchogion (Alae). Fe’i hail-addaswyd hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif.

Isod ceir rhestr o’r mwyafrif o’r caerau Rhufeinig yn yr ardal

Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle hanesyddol er mwyn ei lleoli trwy ddefnyddio map O/S.

Gwynedd

Caer Rhufeinig Segontiwm

Segontium

Segontiwm – y brif Gaer Rhufeinig yng Ngogledd Cymru – Caernarfon SH485623

Caer Rhufeinig Segontiwm

Hen Waliau – Henwalia Porth Rhufeinig 3ydd Canrif – Caernarfon SH481623

Henwalia Porth Rhufeinig 3ydd Canrif

Henwalia Porth Rhufeinig 3ydd Canrif – delwewdd gan KH Banholzer

Bryn Glas – gorsaf signal Rhufeinig (caeedig petryalog) – Caernarfon SH502634 (dim delwedd)

Dinas y Prif – gwersyll caeedig Rhufeinig (clawdd pridd) – Llanwnda SH463578

Dinas y Prif Dinas y Prif

Caerlan Tibot – amddiffynfa gaeedig fychan (o bosib yn gorsaf signal) – Bethel SH507648

Caerlan Tibot

Caer Glascoed – amddiffynfa gaeedig Oes yr Haearn / y Brydain Rufeinig – Llanddeiniolen SH548643

Caer Glascoed

Coed Ty Mawr – caer atodol gyda clawdd pridd a olion ffos – Rhufeinig / canoloesol cynharach – Llanddeiniolen SH556663

Coed Ty Mawr – mwnt caeedig Rhufeinig / canoloesol cynharach

Tyn Llan Uchaf (eglwys)amddiffynfa gaeedig Rhufeinig (o bosib) – Llanddeiniolen SH544658

Tyn Llan Uchaf (eglwys)

Lon Isaf / Siambra Gwynion – gorsaf signal Rhufeinig – (cylchfan A55) Llys y Gwynt, Llandygai SH596695

Lon Isaf / Siambra Gwynion

Penygwryd – gwersyll dros dro Rhufeinig – (ger) Penygwryd SH660557

Caer Llugwy, Bryn y Gefeiliau – caer atodol Rhufeinig – Capel Curig SH745573

Pant Glas – gwersyll dros dro Rhufeinig – Bryncir SH477471

Derwin Bach – gwersyll dros dro Rhufeinig – Bryncir SH477453

Derwin Bach

Pen Llystyn – caer atodol milwrol Rhufeinig (yn chwarel) – Bryncir SH480449

Pen Llystyn

Kanovium – caer Rhufeinig, gyda anheddau amddiffynnol a doc gerllaw – Caerhun SH776703

Caer Rhufeinig Canovium (Caerhun)

Tomen y Mur – 120 AC – caer atodol Rhufeinig ac anheddau amddiffynnol, ac yn gynharach adeiladwyd castell mwnt y Normaniaid ar ben y Caer Rhufeiniaid – (ger) Trawsfynydd SH705386

Tomen y MurTomen y Mur - castell mwnt y Normaniaid ar ben y Caer Rhufeiniaid

Tomen y Mur - amffitheatr Rhufeinig Tomen y Mur

Ynys Môn

Tai Cochion – anheddau Rhufeinig – Trefarthen, Brynsiencyn SH480657

Porthamel – anheddau caeedig y Brydain Rufeinig (o bosib yn ysgol hyfforddi Derwyddon Oes yr Haearn) – Llanedwen SH508679

Caer Idris – anheddau Rhufeinig (o bosib yn gaer Oes yr Haearn) – Brynsiencyn SH494680

Caer Leb – anheddau Oes yr Haearn / y Brydain Rufeinig (clawdd pridd) – Brynsiencyn SH473674

Caer Leb

Rhuddgaer – anheddau amddiffynnol y Brydain Rufeinig – (ger) Dwyran SH445642

Caer Gybi – olion wal o’r caer Rhufeinig – Caergybi SH247827

Caer Rhufeinig Caergybi Wal Caer Rhufeinig Caergybi

Caer y Twr – bryngaer Rhufeinig gyda olion twr gwylfeydd a wal helaeth o cerrig amddiffynol – Caergybi SH218829

Caer y Twr, Bryngaer Rhufeinig (olion twr gwyfeydd)  Caer y Twr - gyda wal helaeth o gerrig amiddiffynol Rhufeinig

Hendrefor – anheddau caeedig Rufeinig o bosib (clawdd pridd) – Llansadwrn SH545765

Hendrefor

Bryn Eryr – anheddau Oes yr Haearn / y Brydain Rufeinig (clawdd pridd) – Llansadwrn SH540757

Bryn Eryr

Mae rhai ardaloedd ar dir preifat ag efallai y bydd angen caniatâd cyn crwydro.
Mae yna lwybrau cyhoeddus ar gael ac yn arwain i’r rhan fwyaf o lefydd.
Rhaid bob amser gymryd gofal, gan ei fod yn anodd cyrraedd rhai lleoliadau oherwydd y bryniau a’r llethrau, sydd yn arwain i ffwrdd o gyfeiriad y llwybrau.