Cestyll Canoloesol
Cestyll yn sicr yw un o’r pethau mwyaf amlwg yn ein hetifeddiaeth, i’w gweld ar draws ein holl dirwedd. O’r cestyll mawr canoloesol i’r cestyll Cymreig llai adnabyddus, mae gan bob un ei stori arbennig. Mae llawer o’n cestyll cynharaf wedi diflannu, gan adael dim mwy nag olion o’r lle y safent. Dymchwelwyd hwy neu gael eu defnyddio fel ffynhonnell defnyddiau adeiladu ar gyfer yr eglwysi cynnar neu’r cestyll diweddarach.
Adeiladwyd mwyafrif y cestyll o bren ac felly nid oeddent yn para. Addaswyd rhai ohonynt o safleoedd amddiffynnol blaenorol megis bryngaerau, gan adael olion o waliau amddiffynnol a thomennu pridd ac ambell adfail o mwnt a beili. Dyma’r hyn a welir gan fwyaf gyda’r cestyll a godwyd rhwng 1088 a 1115 yn ystod y Goncwest Normanaidd.
Er bod Llywelyn Fawr wedi codi ceyrydd canoloesol gwych, dim ond Dolbadarn a Dolwyddelan a erys. Fodd bynnag, y safleoedd mwyaf trawiadol o’r cyfan yw’r cestyll mawr a adeiladwyd gan y brenin Edward I o Loegr i orthrymu’r Cymry wedi marw ein llyw olaf Llywelyn ap Gruffydd yn 1282. Heddiw gwerthfawrogwn y cestyll mawr hyn – Caernarfon, Biwmares a Harlech – wrth iddyn nhw ddenu ymwelwyr o bob rhan o’r byd.
Isod ceir rhestr o’r mwyafrif o’r Cestyll Canoloesol yn yr ardal
Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle hanesyddol er mwyn ei lleoli trwy ddefnyddio map O/S
Cestyll Edward I
Castell Caernarfon – (1283) Edward I Brenin Lloegr (wedi ei sefydlu ar sylfaen mwnt a beili amddiffynnol cynharach) – Caernarfon SH476626
Castell Harlech – (1283) Edward I Brenin Lloegr (wedi ei sefydlu ar sylfaen amddiffynnol cynharach) – Harlech SH580312
Castell Biwmares – (1295) Edward I Brenin Lloegr – Biwmares SH607762
Castell Conwy – (1283) Edward I Brenin Lloegr – Conwy SH783877
Castell Rhuddlan – (1277) Edward I Brenin Lloegr – Rhuddlan SJ024779
Castell Dinbych – (1282) Edward I Brenin Lloegr – Dinbych SJ051657
Cestyll Cymraeg
Castell Criccieth – (c.1230) Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (wedi ei addasu yn 1283 gan Edward I brenin Lloegr) – Criccieth SH499377
Castell Dolbadarn – (c.1221) Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (wedi ei sefydlu ar sylfaen cynharach, ac yn1283 wedi ei gymryd gan Edward I Brenin Lloegr) – Llanberis SH585598
Castell Dolwyddelan – (c.1221) Tywysog Llywelyn ap Iorwerth – Dolwyddelan SH721823
Tomen Castell – (c.1170’s) castell Cymraeg 12fed ganrif (man genni Llywelyn Fawr) (olion) – Dolwyddelan SH724521
Castell Deganwy – (c.520’s) Caer Frenhinol, castell cynharach Cymraeg, Maelgwn Hir (olion) – Deganwy SH782794
Carn Fadrun – (c.1170’s) castell canoloesol Cymraeg (olion) – Tudweiliog SH280350
Castell Pen y Garn – (1288) efallai yn gastell Cymraeg 12fed canrif (olion) – Prenteg SH581411
Castell y Bere – (c.1221) Tywysog Llywelyn ap Iorweth (wedi ei addasu yn 1284 gan Edward I brenin Lloegr) – Llanfihangel-y-pennant SH667085
Castell Aberlleiniog – castell mwnt a beili y Normaniaid (1088, gan Iarll Caer, Hugh d’Avranches, a wedi ei ddefnyddio yn ddiweddarach gan dywysogion Cymru) – Llanddona, Anglesey SH616793