Bryngaerau y Gogledd Gorllewin
Cychwynnodd oes Bryngaerau Oes yr Haearn yng Nghymru tua 700 CC hyd at tua 60 OC pan lwyddodd yr Ymerodraeth Rufeinig i orchfygu penaethiaid a llwythi’r Celtiaid lleol.
Er bod bryngaerau mewn bod yn ystod yr Oes Efydd, Oes yr Haearn oedd cyfnod euraidd adeiladu amddiffynfeydd ar ben bryniau. Fodd bynnag parhawyd i ddefnyddio rhai o’r bryngaerau hyn yn ystod cyfnod y Rhufeiniad. Gelwir rhain yn bentrefi caeedig amddiffynnol y Brydain Rufeinig, ac mae’n amlwg fod mwyafrif y cymunedau hyn wedi setlo’n gyflym o dan reolaeth Rhufain.
Adeiladwyd y rhan fwyaf o fryngaerau ar gyfer dibenion amddiffynnol. Er hyn nid oes tystiolaeth glir ynglŷn â’r rheswm dros eu hadeiladu, gan fod y mwyafrif heb ffynhonnell ddŵr ac yn annhebygol o fod yn addas ar gyfer byw yno’n barhaol na rhyfel llwythol hirdymor. Er bod bryngaerau wedi eu cynllunio ar gyfer gwrthsefyll ymosodiad bychan, mwy na thebyg mai at bwrpas ataliol y codwyd hwy.
Cred rhai haneswyr mai ymfudwyr Celtaidd a’u cododd wrth iddyn nhw ymsefydlogi mewn tiroedd a reolwyd gan y Brythoniaid brodorol – neu ar y llaw arall mai’r brodorion eu hunain a’u cododd i atal y Celtiaid. Fodd bynnag, adeiladwyd rhai bryngaerau yn gynharach yn ystod diwedd yr Oes Efydd. Awgrymir hefyd mai mannau cyfarfod llwythol oedd y bryngaerau hyn, lle i lwythau lleol gasglu at ei gilydd i arddangos eu nerth. Y mwyaf effeithiol amddiffynfeydd y fryngaer, y mwyaf nerthol y llwyth a’r lleiaf tebygol i ddioddef ymosodiad.
Mae llawer o fryngaerau wedi eu gwasgaru ar draws Gwynedd, a’r mwyaf trawiadol yw bryngaer Tre’r Ceiri ym Mhenllyn sydd yn cynnwys 150 o gytiau crynion, a bryngaer Dinas Dinorwig, amddiffynfa blaenorol yr Ordovices.
Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle hanesyddol er mwyn ei lleoli trwy ddefnyddio map O/S.