Mae’n tirlun ni wedi ei am gylchynu gan chwedlau a hen hanes
Mae’r ardal hon wedi’i seilio ar hanes rhyfeddol ar draws Eryri ac Ynys Môn
O’r Cyfnod Neolithig i’r Oes Efydd, mae gennym gladdfeydd hynafol a meini hirion, hyd at oes y Celtiaid a’r bryngaerau Oes yr Haearn a’u aneddiadau hynafol.
– os gwyddoch chi lle!
Mae’n hanes Rhufeinig yn cynnwys Goresgyniad cyntaf Môn yn 60 AD dan arweiniad Gaius Suetonius Paulinus, gan ddwyn i ben deyrnasiad Derwyddon Mona. Mae safleoedd eraill o bwys yn cynnwys Caer Segontium yn Nghaernarfon.
Mae gennym gestyll canoloesol wedi eu hadeiladu gan Edward I wrth iddo goncro Cymru, ynghyd a nifer o gestyll cynharach a adeiladwyd gan ein Tywysogion brodorol Cymreig, gyda’u hanesion anhygoel eu hunain.
Beth am siwrnai drwy’r oesoedd… ymweld â beddau hynafol a meini hirion, Oes y Celtiaid a’u bryngaerau.
Ewch i ymweld y coedlannau lle y dywedir i’r hen Dderwyddon gynnal eu safiad olaf cyn cael eu lladd gan y llengoedd Rhufeinig nerthol, ac ymlaen wedyn i Gymru’r canol oesoedd a’r cestyll rhyfeddol.
Teithiau Lleol
Siambrau Claddu Neolithig ac Oes yr Efydd
Cylchoedd Cerrig a Safleoedd Sanctaidd
Cylch Cytiau ac Anheddau Hynafol
Sefydliadau Rhufeinig yng Ngwynedd ac Ynys Môn (y frwydr derfynol y Derwyddon)
Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle hanesyddol er mwyn ei lleoli trwy ddefnyddio map O/S
Byddwch yn ymwybodol fod rhai o’r safleoedd hanesyddol ar dir preifat