English ardal@ardal-wales.co.uk

cerdded a sgyrsiau

Castell Dolbadarn

Teithiau Hanesyddol

 Mae’n tirlun ni wedi ei am gylchynu gan chwedlau a hen hanes

Mae’r ardal hon wedi’i seilio ar hanes rhyfeddol ar draws Eryri ac Ynys Môn

O’r Cyfnod Neolithig i’r Oes Efydd, mae gennym gladdfeydd hynafol a meini hirion, hyd at oes y Celtiaid a’r bryngaerau Oes yr Haearn a’u aneddiadau hynafol.

– os gwyddoch chi lle!

Beth am siwrnai drwy’r oesoedd… ymweld â beddau hynafol a meini hirion, Oes y Celtiaid a’u bryngaerau.

siambr claddu Bryn Celli Ddu

Tre’r Ceiri

Ewch i ymweld y coedlannau lle y dywedir i’r hen Dderwyddon  gynnal eu safiad olaf cyn cael eu lladd gan y llengoedd Rhufeinig nerthol, ac ymlaen wedyn i Gymru’r canol oesoedd a’r cestyll rhyfeddol.
Mae’n hanes Rhufeinig yn cynnwys Goresgyniad cyntaf Môn yn 60 AD dan arweiniad Gaius Suetonius Paulinus, gan ddwyn i ben deyrnasiad Derwyddon Mona. Mae safleoedd eraill o bwys yn cynnwys Caer Segontium yn Nghaernarfon. 
Mae gennym gestyll canoloesol wedi eu hadeiladu gan Edward I wrth iddo goncro Cymru, ynghyd a nifer o gestyll cynharach a adeiladwyd gan ein Tywysogion brodorol Cymreig, gyda’u hanesion anhygoel eu hunain.

Castell Dolbadarn

Sgyrsiau a Prosiectau Lleol

Hanes yr ardal hyd yr oesoedd

Ffordd ddeinamig a rhyngweithiol o ddangos hanes yr ardal gan ddefnyddio ffotograffiaeth a ffilmiau byrion a gynhyrchwyd gan Ardal

O siambrau claddu hynafol a meini hirion i fryngaerau Oes yr Haearn a chestyll Canoloesol, bydd y sleidiau unigryw a thrawiadol yn swyno’r gynulleidfa

Cefnogaf lawer o wahanol grwpiau a phrosiectau cymunedol, gyda theithiau cerdded hanesyddol, sgyrsiau hanesyddol, ymchwil a gwybodaeth, a weithiau gwasanaethau chwilio am fetel ac defnyddio ffotograffiaeth drôn.

Y nôd yw hyrwyddo ein treftadaeth leol a chynyddu’r wybodaeth hanesyddol yr ardal, drwy gyflwyno ymwelwyr a phobol leol i’n gorffennol anhygoel, drwy sgyrsiau hanes a sioeau sleidiau

Gellir addasu ar gyfer unrhyw achlysur, gan gynnwys sgyrsiau i glybiau amrywiol , darlithoedd i grwpiau

Mae’n bwysig i ni gadw cyswllt â’n hetifeddiaeth

Petaech angen cymorth ychwanegol yn eich ymchwil neu brosiect leol, dyma rhywbeth y gallwn gynnig help llaw i chi.

Mae’r rhif O/S wedi ei gynnwys ar pob safle hanesyddol er mwyn ei lleoli trwy ddefnyddio map O/S

Byddwch yn ymwybodol fod rhai o’r safleoedd hanesyddol ar dir preifat

* (efallai y bydd tal mynediad i rhai llefydd hanesyddol)