Mae Ardal wedi eu greu gan Martin Davies:
Hanesydd lleol a thywysydd teithio gyda profiadol ers llawer o flynyddoedd, ac mae gennyf wybodaeth eang o’r ardal.
Rwyf wedi byw yn yr ardal hon ar hyd fy mywyd ac yn teimlo’n hynod lwcus i gael byw yn yr ardal hardd hon o Gymru, wedi f’amgylchynu gan fynyddoedd Eryri, ynghanol ei hanes hirfaith.
Mae tywysydd teithio yn fy ngwaed, am llawer o flynyddoedd roedd fy nghyndad Moses Williams yn dywysydd teithio yr Wyddfa. Y fo oedd un o’r tywysydd cyntaf i fynd ag ymwelwyr i fyny’r Wyddfa ar gefn ceffyl yn y 19eg ganrif. Fo hefyd oedd perchennog y Tŷ Haner Ffordd am 28 o flynyddoedd, sef bwyty enwog ar ffordd i’r gopa’r Wyddfa.
‘Rwyf wedi enill profiad fel tywysydd taith gyda llawer o safleoedd hanesyddol dros y blynyddoed, yn cynnwys safleoedd sy’n perthyn i Cadw, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Ynys Môn, ac gennyf hefyd brofiad fel darlithydd gyda myrfyrwyr yn Prifysgol Bangor, ac wedi gweithio mewn Ganolfan Groeso.
Mi rwyf yn rhoi cymorth i sawl prosiectau lleol, fy mhrif ddyletswyddau yw tywysydd taith, sgyrsiau hanesyddol, ymchwil a gwybodaeth, a weithiau gwasanaethau chwilio am fetel a ffotograffiaeth drôn.
‘Rwyf yn helpu gyda’r prosiect Cerdded a Darganfod gyda Gareth Roberts, ac mae hyn bleser mawr. ‘Rwyf hefyd wedi helpu gyda cloddfeydd archeolegol.
‘Rwyf yn gyn-aelod o TREFTADAETH GWYDION, grŵp hanes lleol yn ardal Caernarfon.
Teimlaf yr angen i hyrwyddo ein hardal a deall y rheidrwydd i ofalu am ein hetifeddiaeth tra ar yr un pryd alluogi ymwelwyr a phobol lleol i ddysgu am ein hanes tra’n ymweld â’n hardal. I gyflawni hyn mae’n hollbwysig gofalu am yr hyn sydd gennym gan obeithio hefyd fod ymwelwyr yn cael profiadau arbennig a chofiadwy.
Mwynhewch y wefan yma
‘Rwyf yn ddiolchgar i bawb a wnaeth gyfrannu a chefnogi’r wefan hon
Giles Bohannon (Fusion IT Services) am gyngor a chefnogaeth gyda’r wefan hon
Dyfan Roberts am gyfieithu i’r Gymraeg
Gareth Roberts am rai o’r delweddau a’r holl deithiau cerdded gyda Cerdded a Darganfod
Karl Banholzer am ddarparu gwybodaeth hanesyddol, delwedd artistig ac arteffactau
Gareth Foulkes am fod yn Gelt a’r Carnyx arbennig…diolch yn fawr
yr holl berchnogion tir am rhoi caniatâd ar gyfer ffotograffiaeth, ffilmio a ddefnyddio drôn
…ac wrth gwrs diolch mawr i fy’n nheulu a ffrindiau am rhoi fynnu efo fi…